Neidio i'r cynnwys

Maremma

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Maremma a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 14:58, 10 Tachwedd 2022. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Maremma
Mathardal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirToscana, Lazio Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd5,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Tirrenia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.4164°N 11.4781°E Edit this on Wikidata
Map

Ardal arfordirol yng ngorllewin canolbarth yr Eidal, yn ffinio â Môr Tirrenia, yw'r Maremma. Mae'n ardal denau ei phoblogaeth, ac mae ganddi arwynebedd o tua 5000 km2. Mae'n cynnwys llawer o dde-orllewin rhanbarth Toscana a rhan o ogledd talaith Lazio. Arferai fod yn gorstir i raddau helaeth, lle roedd malaria yn rhemp, ond mae'r tir wedi'i wella gan nifer o brosiectau draenio dros y canrifoedd, yn enwedig yn yr 20g.

Mae gwartheg nodweddiadol y rhanbarth hwn, o'r brid Maremmana, yn cael eu magu ar gyfer cynhyrchu cig. Yn draddodiadol byddent yn cael eu gwarchod gan butteri, bugeiliaid ar gefn ceffylau.

Gyrru gwartheg gwylltion y Maremma yn yr oes a fu (The Penny Magazine, 1832)