Harbin
Gwedd
Prifddinas talaith Heilongjiang, Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Harbin (Tsieinëeg Syml:哈尔滨, Tsieinëeg Traddodiadol:哈爾濱 Pinyin:Hāěrbīn, Wade–Giles:Ha-erh-pin).
Sefydlwyd dinas Harbin fel cyffordd ar reilffordd a adeiladwyd gan Ymerodraeth Rwsia. Trwy fynd ar draws Tsieina medrid lleihau y daith i Vladivostok. Adeiladwyd rheilffordd arall o Harbin trwy Changchun i Dalian a'i harbwr di-rew. Er i ddylanwad y Rwsiaid ballu rywfaint ers 1949 y mae dinas Harbin yn parhau i gaei ei dalanwadu ganddynt.
Yn ystod y gaeaf codir adeiladau a cherfluniau gan ddefnyddio blociau mawr o rew.