Neidio i'r cynnwys

Coedwig law

Oddi ar Wicipedia
Coedwig law
Mathcoedwig wlyb Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ardaloedd fforest law drofannol

Coedwig law yw coedwig mewn ardaloedd lle y ceir dros tua 1750 mm hyd 2000 mm (68 modfedd hyd 78 modfedd) o law y flwyddyn.

Ceir dwy ran o dair o'r holl rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion ar y blaned yn y coedwigoedd glaw, a chredir fod cannoedd o filiynau o rywogaethau yn dal heb eu darganfod. Ceir y rhan fwyaf o goedwigoedd glaw y ddaear yn y trofannau, yn enwedig yn nalgylch Afon Amazonas, mewn rhannau o Ganolbarth America megis Nicaragwa, yn Affrica i'r de o'r Sahara yn ymestyn o Camerŵn i Weriniaeth y Congo, yn ne-ddwyrain Asia o Myanmar hyd Indonesia a Papua Gini Newydd, ac yng ngogledd Awstralia.

Ceir hefyd coedwigoedd glaw y tu allan i'r trofannau, yn enwedig ger arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau a Canada.

Fforest law Amazonas ger Manaus